Cymhlethdodau a chostau i'r GIG oherwydd all-dwristiaeth feddygol am lawdriniaeth ddewisol: adolygiad cyflym
Cefndir a Chyd-destun
Mae all-dwristiaeth feddygol yn cyfeirio at bobl sy'n teithio dramor ar gyfer llawdriniaethau dewisol, megis llawdriniaeth i golli pwysau, llawdriniaeth gosmetig, a llawdriniaethau ar y llygaid. Mae'r arfer hwn wedi bod yn tyfu oherwydd atyniad costau is ac amseroedd aros byrrach dramor. Fodd bynnag, mae pryderon sylweddol am y cymhlethdodau posibl a allai godi ar ôl llawdriniaeth, sy'n aml yn golygu bod angen gofal dilynol gan y GIG ar ôl i’r cleifion ddod adref.
Nodau
Nod yr adolygiad cyflym oedd nodi astudiaethau sy'n disgrifio'r effaith ar GIG y DU pan fydd angen gofal dilynol ar gleifion oherwydd cymhlethdodau llawdriniaethau dewisol sydd wedi’u perfformio dramor. Roedd yn canolbwyntio ar ddeall y mathau o gymhlethdodau, y costau dan sylw, ac unrhyw fuddion posibl i'r GIG.
Strategaeth/Dull
Roedd yr adolygiad yn cynnwys tystiolaeth a oedd ar gael hyd at fis Rhagfyr 2024, ac roedd yn cynnwys 37 o astudiaethau. Cyfresi achosion neu adroddiadau achos oedd yr astudiaethau hyn yn bennaf, gydag ychydig o arolygon ymysg llawfeddygon cosmetig. Edrychodd yr adolygiad ar wybodaeth yn yr astudiaethau hyn, a oedd yn cynnwys data gan 655 o gleifion a gafodd eu trin gan y GIG am gymhlethdodau a oedd wedi deillio o lawdriniaethau a gafwyd dramor.
Canfyddiadau/Canlyniadau
Y cymhlethdodau mwyaf cyffredin yn sgil llawdriniaethau colli pwysau oedd poen yn yr abdomen, chwydu, anallu i lyncu, a diffyg maeth, gyda gollyngiadau gastrig yn gyffredin. Yn aml, arweiniodd llawdriniaethau cosmetig at heintiau a chlwyfau llawfeddygol yn ailagor. Ni adroddwyd unrhyw farwolaethau, ond roedd angen triniaethau cymhleth ar lawer o gleifion a oedd yn golygu cyfnod hir yn yr ysbyty ac ymyriadau llawfeddygol niferus.
Roedd costau i'r GIG yn amrywio o £1,058 i £19,549 y claf yn ôl prisiau 2024. Roedd y costau uchaf yn gysylltiedig â chyfnodau hirach yn yr ysbyty a thriniaethau llawfeddygol. Fodd bynnag, roedd sicrwydd y dystiolaeth ar gyfer y costau hyn yn isel iawn, ac nid oedd yn glir a oedd yr holl achosion perthnasol a'r costau cysylltiedig wedi cael eu nodi'n llawn yn yr astudiaethau.
Yr effaith – Ydy hyn yn bwysig?
Mae'r canfyddiadau'n pwysleisio'r baich sylweddol ar y GIG sy’n cael ei achosi gan gymhlethdodau yn sgil all-dwristiaeth feddygol. Mae hyn yn cynnwys costau ariannol a'r pwysau ar adnoddau'r GIG. Mae'r adolygiad yn amlygu’r angen am well ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd, a’r angen i gasglu data’n systematig er mwyn deall yn llawn y risgiau a'r effeithiau.
Ym mha ffordd y caiff y gwaith ymchwil ei ddefnyddio?
Bydd yr ymchwil yn helpu i lywio penderfyniadau polisi ynghylch trin cymhlethdodau yn sgil llawdriniaethau a gaiff eu perfformio dramor. Bydd yn helpu i greu ymgyrchoedd ymwybyddiaeth i addysgu'r cyhoedd am y risgiau posibl a phwysigrwydd glynu at feini prawf y GIG ar gyfer llawdriniaethau dewisol.
Sut y bydd o fudd yn y byd go iawn?
Drwy wella ymwybyddiaeth a gwella lefelau casglu data, gall y GIG reoli gofal dilynol yn fwy effeithiol ar gyfer cleifion sydd wedi cael llawdriniaethau dramor. Gall hyn arwain at ddefnydd mwy effeithlon o adnoddau ac o bosibl lleihau nifer y cymhlethdodau o weld cleifion yn gwneud penderfyniadau mwy gwybodus.
Prif Ganfyddiadau
Cymhlethdodau: Ymhlith yr anawsterau cyffredin roedd poen yn yr abdomen, chwydu, heintiau, a chlwyfau llawfeddygol yn ailagor.
Costau: Roedd costau triniaeth yn amrywio'n sylweddol, gyda'r costau uchaf yn gysylltiedig â chyfnodau hirach yn yr ysbyty a thriniaethau llawfeddygol.
Demograffeg: Roedd y rhan fwyaf o gleifion yn fenywod, a Thwrci oedd y gyrchfan fwyaf cyffredin ar gyfer llawdriniaeth.
Llawdriniaethau: Gastrectomi lawes oedd y llawdriniaeth colli pwysau fwyaf cyffredin, tra mai abdominoplasti oedd y llawdriniaeth gosmetig amlaf.
Bylchau yn y dystiolaeth: Mae angen dull systematig o gasglu gwybodaeth am yr effaith ar GIG y DU yn sgil trin cymhlethdodau sy'n deillio o all-dwristiaeth feddygol ar gyfer llawdriniaeth ddewisol a chostau cysylltiedig. Mae graddfa'r broblem yng Nghymru bron yn gyfan gwbl anhysbys.
Casgliad
Mae all-dwristiaeth feddygol ar gyfer llawdriniaethau dewisol yn peri her sylweddol i'r GIG, o ran costau a dyrannu adnoddau. Er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn, mae ymgyrchoedd ymwybyddiaeth wedi'u targedu a gwell mynediad at wasanaethau rheoli pwysau o fewn y GIG yn hanfodol.
Ysgrifennwyd y crynodeb hygyrch gan Beti-Jane Ingram, Aelod o'r Grŵp Partneriaeth Cyhoeddus.
RR0039