Mae CESC yn gydweithrediad rhwng yr Uned Arbenigol Tystiolaeth Adolygu (SURE) a Chanolfan Cymru ar gyfer Gofal sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth (WCEBC). Ym mis Mawrth 2023, cafodd y ddwy uned ymchwil eu hintegreiddio i weithio mewn partneriaeth ar gyfer Rhaglen Waith Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Uned Arbenigol ar gyfer Tystiolaeth Adolygu
Uned Arbenigol ar gyfer Tystiolaeth Adolygu (SURE), sefydlwyd yn 2000 ac mae ganddo le unigryw yng ngwasanaethau llyfrgell Prifysgol Caerdydd. Mae’r tîm yn cynnwys arbenigwyr gwybodaeth ac adolygwyr systematig profiadol. Maent yn cynnal adolygiadau systematig ac adolygiadau o lenyddiaeth ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, yn ymchwilio i arloesi methodolegol ac yn darparu gwasanaethau ymgynghori a hyfforddi.
Meysydd Arbenigo
- Dylunio a gweithredu chwiliadau uwch Profiad o gynnal pob ffurf ar adolygiadau systematig ac adolygiadau o lenyddiaeth
- Cyfuno tystiolaeth, arfarnu beirniadol a defnyddio GRADE
- Defnyddio dull cloddio testun i wneud adolygiadau’n fwy effeithlon
Cwrdd-â'r-Tim
Mala Mann
Meg Kiseleva
Juliet Hounsome
Ewch i wefan SURE i ddarllen bywgraffiadau’r tîm.
Canolfan Gofal Seiliedig ar Dystiolaeth Cymru
Sefydlwyd Canolfan Cymru ar gyfer Gofal Sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth (WCEBC) yn 2006 fel Canolfan Rhagoriaeth JBI. Maent yn hybu arfer
seiliedig ar dystiolaeth trwy ddatblygu a gwerthuso systemau rhagorol yn rhyngwladol ar gyfer arfarnu tystiolaeth, ei throsi a’i rhoi ar waith.
Mae’r grŵp yn cynnwys arbenigwyr gwybodaeth a methodolegau adolygu systematig.
Meysydd Arbenigo
- Pynciau iechyd a gofal cymdeithasol
- Profiad o amrywiaeth eang o fathau o gyfuno tystiolaeth
- Defnyddio offerynnau JBI ar gyfer gwerthuso, gweithredu a rheoli ansawdd, a defnyddio dull GRADE o weithredu
Cwrdd-â'r-Tim
Deborah Edwards
Elizabeth Gillen
Judit Csontos