Evidence Centre Logo

Digwyddiad Lansio Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

1 Mehefin

Tystiolaeth drylwyr, gyflym a pherthnasol i ddarparu sail ar gyfer gwneud penderfyniadau iechyd a gofal yng Nghymru

Lansiwyd Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar 28 Mawrth 2023 gan Eluned Morgan AS, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.Bydd y Ganolfan newydd yn rhoi tystiolaeth ymchwil hanfodol i Weinidogion a llunwyr penderfyniadau eraill i fynd i’r afael â’r heriau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n wynebu Cymru. 

Gyda ffocws ar fynd i’r afael ag ystod eang o anghenion iechyd a gofal cymdeithasol, bydd y yn helpu i sicrhau bod polisïau a gwasanaethau yng Nghymru yn tynnu ar ganfyddiadau’r ymchwil mwyaf diweddar a thrylwyr. 
 

Ail-edrych ar ein digwyddiad lansio:

Anerchiad Agoriadol, Eluned Morgan AS, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Lansio Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru Newydd, Yr Athro Adrian Edwards,Cyfarwyddwr, Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Cyfarfod â’n Timau Ymchwil, Dr Ruth Lewis, Cyfarwyddwr Cyswllt, Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Strategaeth Grŵp Partneriaeth Cyhoeddus (PPG), Dr Denitza Williams, Arweinydd Cynnwys y Cyhoedd ar y Cyd, Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru